Falcon Heavy

Falcon Heavy
Enghraifft o'r canlynolmodel o gerbyd Edit this on Wikidata
MathFalcon 9, arch-gerbyd lansio all godi pwysau trwm, cerbyd lansio all godi pwysau trwm Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
GwneuthurwrSpaceX Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://spacex.com/falcon-heavy Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r Falcon Heavy yn gerbyd lansio trwm iawn i gludo cargo i orbit y Ddaear, a thu hwnt; mae'n roced y gellir ei hailddefnyddiol yn rhannol. Mae wedi'i ddylunio, ei gynhyrchu a'i lansio gan y cwmni awyrofod Americanaidd SpaceX, un o hoff brosiectau'r biliwnydd Elon Musk.

Mae'r roced yn cynnwys silindr craidd canolig, gyda dwy roced Falcon 9 atodol yn sownd ynddi, ac ail ran (uchaf) uwchben y rhain.[1] Gan y Falcon Heavy mae'r ail gapasiti uchaf, o ran y llwyth y gall ei gario, a hynny o unrhyw gerbyd lansio a oedd yn weithredol yn 2023, y tu ôl i System Lansio Gofod NASA (SLS), a'r pedwerydd uchaf o unrhyw roced i gyrraedd orbit erioed, yn llusgo y tu ôl i'r SLS (UDA cyfoes), Energia (Rwsia yn y 1980au) a Sadwrn V (UDA 1960au-70au).

Lansiad cyntaf y Falcon Heavy
Falcon Heavy (yn cynnwys manylebau'r Falcon 9 Block 5 ar y pad lansio ym Mehefin 2019

Cynhaliodd SpaceX lansiad cyntaf y Falcon Heavy ar 6 Chwefror 2018, am 20:45 UTC.[2] Fel llwyth dymi, cludwyd yn y roced y car Tesla Roadster a oedd yn perthyn i sylfaenydd SpaceX, Elon Musk, gyda mannequin o'r enw "Starman" yn eistedd yn sedd y gyrrwr.[3] Digwyddodd ail lansiad Falcon Heavy ar 11 Ebrill 2019, a dychwelodd y tair cyfnerthyddion (boosters) yn llwyddiannus i'r Ddaear.[4] Digwyddodd trydydd lansiad Falcon Heavy (eto'n llwyddiannus) ar 25 Mehefin 2019. Ers hynny, mae Falcon Heavy wedi cymryd rhan yn y rhaglen Lansio Gofod Diogelwch Cenedlaethol (NSSL) yr UDA.[5]

Dyluniwyd y Falcon Heavy i allu cludo bodau dynol i'r gofod a thu hwnt i orbit isel y Ddaear, ond erbyn Chwefror 2018 dywedwyd mai Starship fyddai'n cludo pobl ac nid y Falcon Heavy.[6] Felly, disgwylir i Falcon Heavy a Falcon 9 gael eu disodli yn y pen draw gan system lansio Starship, sy'n cael ei datblygu yn Boca Chica, Tecsas.[7]

  1. "Falcon 9 Overview". SpaceX. May 8, 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar August 5, 2014.
  2. Harwood, William (February 6, 2018). "SpaceX Falcon Heavy launch puts on spectacular show in maiden flight". CBS News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar February 6, 2018. Cyrchwyd February 6, 2018.
  3. "Elon Musk's huge Falcon Heavy rocket set for launch". BBC News. February 6, 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar February 6, 2018. Cyrchwyd February 6, 2018.
  4. SpaceX (August 10, 2018), Arabsat-6A Mission, https://www.youtube.com/watch?v=TXMGu2d8c8g, adalwyd April 11, 2019
  5. Erwin, Sandra (21 September 2019). "Air Force certified Falcon Heavy for national security launch but more work needed to meet required orbits". SpaceNews. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 April 2021. Cyrchwyd September 22, 2019.
  6. Pasztor, Andy. "Elon Musk Says SpaceX's New Falcon Heavy Rocket Unlikely to Carry Astronauts". The Wall Street Journal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar February 6, 2018. Cyrchwyd February 6, 2018.
  7. Foust, Jeff (September 29, 2017). "Musk unveils revised version of giant interplanetary launch system". SpaceNews. Archifwyd o'r gwreiddiol ar October 8, 2017. Cyrchwyd May 3, 2018.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy